Ysgol Capel Garmon

Gwybodaeth

Mae Ysgol Capel Garmon yn un o Ysgolion Ffederasiwn Capel Coed-Elan.

Mae hi’n ysgol Gynradd Sirol o ddosbarth Meithrin hyd at flwyddyn 6 ac yn ysgol ddyddiol, Gymraeg, gydaddysgol.

Cyflogir 2 o Athrawon llawn amser, CADY (Cydlynydd Anghenion Ysgol Ychwanegol) sy’n gweithio’n strategol ar draws y ffederasiwn am ddiwrnod pob wythnos, un Cymhorthydd Dosbarth llawn amser a Phennaeth Strategol sy’n gyfrifol am dair ysgol y ffederasiwn.

Polisi Derbyn
Plant Cyn-Ysgol - Derbynnir plant yn rhan amser, yn y boreau, ar ddechrau’r tymor sy’n dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.
Plant Meithrin – Yn rhan amser, yn y boreau, ar ddechrau blwyddyn addysgol newydd (Medi) pryd y byddant yn dathlu eu pen-blwydd yn 4 oed yn ystod y cyfnod : Medi - Awst.
Plant Blwyddyn Derbyn - Yn llawn amser ym mis Medi yn dilyn eu pen blwydd yn 4 oed.

Yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am bolisi derbyn yr ysgol, ac mae copi o’u polisi ar gael gan Adran Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar eu gwefan www.conwy.gov.uk

Mae Meithrinfa ‘Twt Lol’ (Pentrefoelas) yn cynnig gwasanaeth casglu plant Cyn-ysgol/Meithrin o’r ysgol am 12:55 i fynychu’r feithrinfa am weddill y dydd.

Am fanylion pellach cysylltwch gyda Lowri Jones – Rheolwraig ‘Twt Lol’ (01690 770335)

Cyngor Conwy Council logo

Eco-Sgolion Eco-Schools logo

Ysgolion Iach Conwy

Siarter Iaith Conwy

Seren a Sbarc