Ysgol Capel Garmon

Croeso i Wefan Ysgol Gynradd Capel Garmon

Mae Ysgol Capel Garmon yn un o Ysgolion Ffederasiwn Capel Coed-Elan, sef ffederasiwn o dair ysgol fach, wledig sydd yn uwch ddyffryn yr afon Gonwy. Mae hi’n ysgol Gynradd Sirol o ddosbarth Meithrin hyd at flwyddyn 6.

Dynodir yr ysgol yn Ysgol Gymraeg yn ôl polisi iaith yr awdurdod addysg. Cymraeg yw’r prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol, ac anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r uwchradd.

Ein gweledigaeth yma yw sicrhau addysg, profiadau a chyfleoedd o’r ansawdd orau bosibl o fewn amgylchedd ddiogel, hapus a chartrefol. Anelwn i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gyflwyno i’r etifeddiaeth Gymraeg ac yn cael pob cyfle i ddatblygu i’w llawn potensial fel unigolion annibynnol, hyderus a llwyddiannus i fyd sy’n prysur newid - ac felly ein harwyddair yw ‘Ysgol fach, Ysgol i fyd.’

‘Ysgol fach, Ysgol i fyd ’
(Myrddin ap Dafydd)

ss-1

X

Calendar

Manylion Cysylltu

Pennaeth Strategol: Mrs Nia H. Jones-Artell

Address: Ysgol Capel Garmon, Capel Garmon, Llanrwst, Conwy, LL26 0RL

Phone: 01690 710287

E-mail: pennaeth@capelgarmon.conwy.sch.uk

Map Lleoliad

Cyngor Conwy Council logo

Eco-Sgolion Eco-Schools logo

Ysgolion Iach Conwy

Siarter Iaith Conwy

Seren a Sbarc